Lles, Llawenydd a Llwyddiant

Hafan > Ysgol > Gweledigaeth ac Ethos

Gweledigaeth ac Ethos

Arwyddair: Lles, Llawenydd a Llwyddiant

Ein arwyddair yma yn Ysgol Llangelynnin yw lles, llawenydd a llwyddiant, a’r arwyddair yma yw gwraidd ein ethos ysgol. Rydym yn credu yn gryf mewn hybu awyrgylch hapus a saff sydd yn galluogi’r disgyblion ffynnu ac ehangu eu gorwelion. Ein nod yw darparu cwricwlwm eang, heriol a diddorol sydd yn ysbrydoli’r disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol dwyieithog.Gwnawn hynny drwy hybu nodweddion ein arwyddair fel cymdeithas ysgol:

Lles:

  • Parchu eich hunain ag eraill drwy fod yn glên, cwrtais a charedig. 

Llawenydd:

  • Dangos mwynhad yn yr ysgol drwy fod yn fentrus a chreadigol

  • Defnyddio meddwl gwyrdd i ddal ati a mwynhau heriau

Llwyddiant:

  • Llwyddiant yw bod yn uchelgeisiol, canolbwyntio ar eich gwaith ag ymdrechu er mwyn cyrraedd eich potensial.

Yn ogystal â:

  • Dangos balchder am yr iaith a’n traddodiau mewn ethos Gymreig