Hafan > Rhieni > Cymdeithas Rhieni
Cymdeithas Rhieni
Mae'r Cymdeithas Rhieni (Ffrindiau Llangelynnin) yn rhan hanfodol o'n cymuned ysgol, gan ddod â rhieni, athrawon, a staff at ei gilydd i gefnogi profiad addysgol ein disgyblion. Mae’r Ffrindiau yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau ac ymdrechion codi arian drwy gydol y flwyddyn, sy'n helpu i godi arian gwerthfawr i wella'r amgylchedd ysgol a darparu adnoddau i'n disgyblion. Mae'r Ffrindiau hefyd yn cynnig cyfle i rieni gymryd rhan, rhannu syniadau, cymdeithasu a chael effaith gadarnhaol ar fywyd yr ysgol. Rydym yn annog pob rhiant a gwarcheidwad i ymuno â'r Ffrindiau a chyfrannu at wneud ein hysgol yn lle gwell i bawb.
Beth mae'r Ffrindiau wedi ei gyfrannu yn ddiweddar?
-
Talu i Tom Gwynedd (Swyddog Addysg Awyr Agored) ddod i'r ysgol a rhedeg gweithgareddau awyr agored ac ymarferion adeiladu tîm i bob dosbarth.
-
Cyfrannu £9 y plentyn i'r Panto fel mae’r gost oedd £10 y plentyn.
-
Wedi prynu helmedau newydd i'r disgyblion iau fynd ar eu beiciau cydbwysedd yn yr ardal allanol.
-
Wedi talu am chwaraewyr mp3 a ddefnyddir i helpu disgyblion i ganolbwyntio ar dasgau / helpu disgyblion ag anghenion emosiynol i dawelu eu meddwl mewn sefyllfaoedd anodd.