Croeso cynnes
Dymuna’r Llywodraethwyr a’r Staff eich croesawu i wefan Ysgol Llangelynnin. Saif yr Ysgol mewn ardal gwledig, ond hefyd yn dafliad carreg o dref hanesyddol Conwy.
Ein arwyddair yma yn Ysgol Llangelynnin yw lles, llawenydd a llwyddiant, a’r arwyddair yma yw gwraidd ein ethos ysgol. Rydym yn credu yn gryf mewn hybu awyrgylch hapus a saff sydd yn galluogi’r disgyblion ffynnu ac ehangu eu gorwelion. Ein nod yw darparu cwricwlwm eang, heriol a diddorol sydd yn ysbrydoli’r disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnol ac uchelgeisiol dwyieithog.
“Mae ymdeimlad cryf o deulu wedi ei wreiddio yn yr ysgol, ac mae’r berthynas waith gynhaliol a chyfeillgar sy’n bodoli rhwng staff a disgyblion yn nodwedd gref.” – Adroddiad Estyn 2025
Ysgol Dan Reolaeth Wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru
LLAWLYFR YR YSGOL