Lles, Llawenydd a Llwyddiant

Hafan > Rhieni > Addysg Gymraeg

Addysg Gymraeg

Mae addysg ddwyieithog yn darparu llawer o sgiliau a chyfleoedd rhyfeddol a fydd o fudd i’ch plentyn am oes. Gall addysg gyfrwng Gymraeg wella profiadau academaidd a diwylliannol eich plentyn yn ogystal ag agor llwybrau proffesiynol wrth iddynt dyfu i fyny a dilyn gyrfa yng Nghymru. Profwyd yn wyddonol mae bod yn ddwyieithog o oedran ifanc yn cynorthwyo dysgu ieithoedd eraill a all roi mwy o gyfleoedd i’ch plentyn yn y dyfodol. Yma, mae llawer o’n disgyblion yn dod o gefndiroedd  di-Gymraeg a rydym yn derbyn bod yna gyfrifoldeb arnom ni fel ysgol i'ch cefnogi ar hyd y daith. Un o’r pryderon mwyaf i unrhyw riant nad yw’n siarad Cymraeg sy’n ystyried addysg Gymraeg yw sut y byddant yn cefnogi dysgu eu plentyn pan na allant hwy eu hunain siarad yr iaith.

Gallaf eich sicrhau y gallwch gefnogi’ch plentyn yn union fel y byddech chi pe byddent yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Darperir yr holl ohebiaeth (gan gynnwys gwaith cartref) i’n disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid yn ddwyieithog. Golygai hyn y byddwch chi bob amser yn cael eich cynnwys ac yn teimlo’n rhan annatod o addysg eich plentyn. Rydym yn falch iawn bod plant ysgol Llangelynnin yn ein gadael yn ddysgwyr dwyieithog hyderus, gyda'r mwyafrif helaeth yn dewis parhau efo addysg Gymraeg pan yn symud i'r uwchradd.

Cofiwch; Dwy Iaith, Dwywaith y Cyfleon!!